Rwy’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear Prifysgol Aberystwyth. Mae fy arbenigedd yn ymwneud â mewnfudo, amlddiwylliannedd, a chyfranogiad. Ar hyn o bryd rwy’n Brif Ymchwilydd ar brosiect sy’n ystyried sut mae mewnfudwyr o wledydd yr A8 – y gwledydd hynny yng nghanolbarth Ewrop ag ymunodd â’r UE yn 2004 – yn cyfrannu yn eu cymunedau lleol. Mae’r prosiect hwn yn rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD.
Cefndir
Fe’m magwyd yn Ystalyfera, yng Nghwm Tawe. Derbyniais fy addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Derbyniais radd ag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2006, cyn ennill ysgoloriaeth addysgu cyfrwng Cymraeg. Derbyniais fy MA mewn Daearyddiaeth Wleidyddol yn 2007, a fy PhD ar brofiadau beunyddiol Mwslemiaid yng nghefn gwlad gorllewin Cymru yn 2011. Fe’m penodwyd i Ddarlithyddiaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2011. Bûm yn Gymrawd Sefydliad Moore ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway yn 2015. Rwy’n Gymrawd o’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydeinig – yr RGS-IBG), ac yn Ysgrifennydd ar Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Gymdeithasol a Ddiwylliannol yr RGS-IBG.